Baledi gororau'r Alban
Traddodiad llên lafar sy'n hanu o ororau'r Alban yn y 15fed a'r 16g yw baledi gororau'r Alban. Yn ystod y cyfnod hwn, roedd ardaloedd ar y ffin rhwng Teyrnas yr Alban a Theyrnas Lloegr i bob pwrpas yn ddigyfraith. Noda hanes y goror gan ysbeiliadau'r Reivers, cynhennau'r teuluoedd lleol, a Rhyfeloedd yr Alban a Lloegr. Dethlir cyrchoedd y herwyr a brwydrau'r claniau gan y baledi gwerin hyn. Sonir rhai ohonynt am ddigwyddiadau hanesyddol o bwys, ond straeon dial yw'r mwyafrif ohonynt. Chwedlau lleol yw nifer ohonynt, straeon nad yw'n wir ond sy'n cyfeirio at enwau lleoedd a theuluoedd yr ardal ac sy'n ymwneud â thraddodiadau a bywydau'r werin. Thema ramantaidd sydd i ambell baled: llathrudd a phriodas ffo.[1] Cenir yn Sgoteg neu dafodiaith Saesneg gogledd-ddwyrain Lloegr.[2] Sbardunodd yr Oes Ramantaidd ddiddordeb mewn llên a chelfyddyd draddodiadol y werin. Ymgasglodd Syr Walter Scott nifer o faledi'r gororau dan yr enw Minstrelsy of the Scottish Border.[3] Cenir baledi'r gororau gan deuluoedd yr ardal am ganrifoedd. Bu enwau'r arwyr a'r dihirod yn gyfarwydd i werin y goror, yn fwyfwy oherwydd mae nifer o'r cyfenwau yn goroesi hyd heddiw: Armstrong, Graham, Robson, Elliot, Fenwick, Rutherford, Noble, a Reed, er enghraifft. Daeth hen eiriau a glywir yn y baledi yn rhan o'r dafodiaith leol.[2] Rhestr
Cyfeiriadau
|
Portal di Ensiklopedia Dunia