BMW i3
Car trydan 5-drws ydy'r BMW i3, a elwid yn wreiddiol yn Mega City Vehicle (MCV). Fe'i gwneir gan y cwmni Almaenig BMW ac mae'n rhan o'u "Project i".[9][10][11] Dyma fodel cyntaf BMW heb allyriant sydd wedi'i fas-gynhyrchu a BMW yw'r cyntaf i greu car wedi'i wneud o bolymer a atgyfnerthwyd gan garbon-ffibr, sy'n gwella effeithiolrwydd a'r defnydd o ynni. Yn Rhifyn Haf 2016 o gylchgrawn gwerthuso ceir Top Gear, derbyniodd y BMW i3 9 marc allan o 10: un o'r ychydig geir i dderbyn marciau mor uchel.[12] Nodwyd fod y car hwn yn torri tir newydd: "the most revolutionary mainstreem car yet". Erbyn Haf 2016 roedd BMW yn cynnig range extender i'w alluogi i fynd ymhellach ar lond batri o drydan, am gost o £34,130 yn hytrach na £30,980 am gar heb yr estyniad hwn. Gall Y BMW i3 gyrraedd pellter o rhwng 130 – 160 km (80 - 100 mi) dan amgylchiadau a nodir yng Nghylch Gyrru Newydd Ewrop (New European Driving Cycle) (NEDC), a hyd at 200 km (120 mi) ar ei fwyaf effeithiol. Dan amgylchiadau a nodir gan Asiantaeth yr Amgylched (UDA), y pellter swyddogol ydy 130 km (81 mi) ac economi tanwydd o 124 milltir y galwyn cywerth —MPGe— (1.90 L/100 km; 149 mpg imp). Cynigia BMW fodel sydd a phellter o 260 – 290 km (160 - 180 mi), sef y i3 REx, gyda pheiriant petroliwm 647 cc dwy silindr a thanc tanwydd bychan sy'n cicio i mewn pan fo'r batri bron a gwacáu. Mae'r peiriant hwn yn gweithio fel generadur sy'n cynhyrchu trydan sydd yn ei dro'n gyrru'r olwynion. Ym Mehefin 2015 dyma'r cerbyd trydan mwyaf effeithiol o ran tanwydd, a gynhyrchwyd yn fyd-eang, a'r i3 REx yw'r car trydan ardystiedig mwyaf effeithiol gyda pheiriannau petroliwm.[7] Dadorchuddiwyd y car am y tro cyntaf yn Sioe Cerbydau Rhyngwladol yr Almaen yn 2011 a rhowliwyd y car adwerthol i'r cwsmer yng Ngorffennaf 2013. Yn 2015 roedd y pris gwerthu yn US$42,275 cyn nawdd llywodraeth yn yr UDA a'r i3 REx yn US$3,850 ychwanegol. Yng ngwledydd Prydain mae'r car ar werth am £30,680 (US$47,195) cyn nawdd. Hyd at Rhagfyr 2015 gwerthwyd 41,586 o gerbydau ledled y byd, y trydydd gorau, o holl geir trydan-yn-unig. Gweler hefyd
Cyfeiriadau
Dolennau allanol |
Portal di Ensiklopedia Dunia