Auckland
Dinas fwyaf Seland Newydd yw Auckland (Maori: Tāmaki-makau-rau). LleoliadFe'i lleolir ar Ynys y Gogledd, ac yn gorwedd rhwng Harbwr Manukau ar Fôr Tasman a Harbwr Waitemata ar y Môr Tawel. Mae tua 50 o losgfynyddoedd yn ardal Auckland. Ffurfiwyd Ynys Rangitoto, yr un diweddaraf, tua 700 mlynedd yn ôl, a dinistriwyd yr anheddiad Maori ar Ynys Mototapu. ![]() HanesDaeth y Maori i Auckland tua 650 mlynedd yn ôl, ac yn aml, sefydlwyd caerau gan y Maori ar ben yr hen losgfynyddoedd, megis Mynydd Eden ac One Tree Hill. Un o'r enwau Maori yr ardal yw Tamaki herenga waka', sy'n golygu 'gorffwysfan llawer o gychod'; harbwr diogel ar eu cyfer nhw. Ym 1642, darganfuwyd Seland Newydd gan Abel Tasman ac ym 1769, cyrhaeddodd James Cook i fapio'r arfordir. Erbyn 1840 roedd Prydeinwyr wedi cyrraedd; llofnodwyd Cytundeb Waitangi rhyngddynt a'r Maori ar 6ed Chwefror, 1840. Dewisodd William Hobson, rhaglaw cyntaf Seland Newydd Auckland fel prifddinas. Dewisodd Hobson yr enw Auckland, enw ei gyn-gadlywydd, Yr Arglwydd Auckland, rhaglaw India ar adeg honno. Enw teuluol yr arglwydd oedd Eden, enw arall sy'n ymddangos yn yr ardal. Erbyn 1843 roedd gan Auckland dros 3000 o drigolion, ac erbyn diwedd yr 1860au, roedd 12,000 ohonynt. Prif ardal fasnachol y dref wreiddiol oedd Commercial Bay, rhwng Point Britomart a'r esgair lle mae Heol Swanson heddiw. Gerllaw, i'r gorllewin, roedd Official Bay, lle roedd swyddogion y llywodraeth yn byw. Mechanics Bay oedd yr un nesaf i'r gorllewin, oherwydd gwaith ei drigolion. Erbyn yr 1890s, clywyd llawer o ieithoedd ar y strydoedd llawn bobl o Ewrop, Tsieina ac India, heb sôn am bobl Maori oedd wedi cyrraedd o ardaloedd gwledig. Heddiw![]() Erbyn heddiw, Auckland yw'r ddinas Polynesaidd fwyaf y byd. Mae 63% o'i thrigolion o dras Ewropiaidd, 11% Maori, 13% o ynysoedd y Môr Tawel a 12% o Asia. Roedd gan y ddinas 1,377,200 o drigolion yn 2011, sy'n 31 y cant o boblogaeth y wlad. CludiantMae gan Auckland rwydwaith o reilffyrdd a bysiau ar gyfer cludiant lleol. Trydanir y rheilffyrdd lleol ar hyn o bryd. Does ond un trên bellter hir yn gadael Auckland, sef yr Overlander, sy'n mynd i Wellington. Ffocws cludiant cyhoeddus y ddinas – bysiau a rheilffyrdd - yw Canolfan Cludiant Britomart. ![]() Mae Sealink yn cynnig fferi i Ynys Waiheke ac Ynys Great Barrier, ynysoedd mwyaf Gwlff Hauraki. Mae cwmni Fullers hefyd yn cynnig fferi – yn gadael cei o flaen Canolfan Britomart - i Ynysoedd Waiheke a Great Barrier, ac yn mynd ar draws yr harbwr i Devonport, ac i Ynys Rangitoto ac Ynys Motutapu. Mae gan Auckland maes awyr rhyngwladol, yr un prysuraf yn Seland Newydd, 21 cilomedr i'r de o ganol y ddinas. Côd y maes awyr yw AKL.[1] Atyniadau
'City of Sails'Hawlir bod gan Auckland mwy o gychod y pen nac unrhyw ddinas arall yn y byd. CyfeiriadauDolenni allanol |
Portal di Ensiklopedia Dunia