Arwyddlun Tsieineaidd![]() Arwyddlun Tsieineaidd neu Hanzi yw'r geirarwyddion (logogramau) a ddefnyddir i ysgrifennu ieithoedd Tsieina. Rhennir Hanzi yn arwyddluniau traddodiadol a symledig. Gellir rhannu arwyddluniau Tsieineaidd yn bum categori:
Ffonogramau yw tua 90% o'r arwyddluniau a ddefnyddir heddiw. Mae tua 56,000 o arwyddluniau Hanzi wedi eu cofnodi, rhai ohonynt yn rhai na ddefnyddir mwyach. Byddai angen gwybod tua 3,000 o arwyddluniau i ddarllen papur newydd Tsieineaidd, tra disgwylid i Tsieinëeg diwylliedig wybod tua 7,000 ar gyfartaledd. Symleiddiwyd yr arwyddluniau yng Ngweriniaeth Pobl Tsieina yn 1950 dan Mao Zedong. Defnyddir y dull symledig yn Singapôr hefyd, ond mae Taiwan yn defnyddio'r dull traddodiadol. Kanji yw'r enw a roddir ar arwyddluniau Tsieinëeg a gaiff eu defnyddio yn system ysgrifennu Japaneg. |
Portal di Ensiklopedia Dunia