Arthur Boucher
Roedd Arthur William Boucher (29 Mehefin, 1870 – 25 Ebrill, 1948) yn flaenwr rygbi rhyngwladol a chwaraeodd rygbi clwb i Gasnewydd a rygbi gwahoddiad i'r Barbariaid. Chwaraeodd mewn 13 o gemau rhyngwladol i Gymru. CefndirGanwyd Boucher yn Gobowen, Swydd Amwythig yn blentyn i Charles Boucher, gweinyddwr cwmni rheilffordd ac Emilie (née Davies) ei wraig. Roedd y tad yn hanu o Rydychen a'r fam o Wrecsam. Ym 1871 symudodd y teulu i Gaerfaddon ac ym 1874 setlodd y teulu yng Nghasnewydd. Cafodd Boucher ei addysgu yn Ysgol Clytha, Casnewydd. GyrfaWedi ymadael a'r ysgol yn 15 mlwydd oed aeth Boucher i weithio fel clerc cyffredinol i gwmni Great Western Railways yn eu swyddfa yng Nghaerdydd ym 1885. Ym 1888 cafodd dyrchafiad i fod yn glerc nwyddau'r cwmni yng Nghasnewydd.[1] Ymadawodd a'r rheilffyrdd ym 1892 i weithio i gwmni allforio glo fel clerc ac wedyn fel rheolwr. Gyrfa RygbiGyrfa clwbDechreuodd Boucher ei yrfa rygbi fel blaenwr i dîm Casnewydd yn nhymor 1889/90 [2] gan chware i'r tîm am ddegawd gan gynnwys gwasanaethu fel capten am dri thymor. Roedd yn rhan o dîm di guro 1891/92 ar y cyd ag Arthur Gould. Yn ogystal â chware rygbi i Gasnewydd bu Boucher a Gould yn chwaraewyr amlwg yn nhîm criced y dref.[3] Wedi rhoi'r gorau i chwarae bu Boucher yn parhau a'i gysylltiad â rygbi trwy wasanaethu fel is lywydd Clwb rygbi Dinas Powys.[4] Bu hefyd yn un o sylfaenwyr Clwb Badminton Dinas Powys.[5] Gyrfa ryngwladolDewiswyd Boucher i chwarae i Gymru am y tro cyntaf ar 2 Ionawr 1892 yn erbyn Lloegr.[6] Daethpwyd ag ef i mewn gyda chyd-flaenwr Casnewydd, Wallace Watts, a dewiswyd y ddau i chwarae yn yr un garfan ddeng waith. Cafodd tîm Cymru eu curo’n gadarn gan Loegr, gan fethu ag ennill unrhyw un o’r gemau ym Mhencampwriaeth y tymor hwnnw. Y tymor nesaf chwaraeodd Boucher rhan wrth i Gymru ennill y Goron Driphlyg am y tro cyntaf. Erbyn 1897 roedd wedi ennill 13 cap. Yn ei gêm olaf i Gymru yn erbyn Lloegr, sgoriodd Boucher ei unig gais dros ei wlad. Oherwydd yr anghydfod am roi tysteb i Arthur Gould, oedd yn cael ei ystyried fel tâl am chwarae gêm amatur gan rai, ni chwaraeodd Cymru unrhyw gemau pellach y tymor hwnnw.[7] Gemau rhyngwladolCymru TeuluPriododd Boucher â Frances Claribel Heard ym 1902 cawsant fab a dwy ferch. Roedd Grace, ei ferch gyntaf, yn fam i'r awdur llyfrau plant Dick King-Smith. MarwolaethBu farw yn Ninas Powys yn 77 mlwydd oed. Cyfeiriadau
|
Portal di Ensiklopedia Dunia