Argaill
![]() 2 pen yr argaill 3 llabedennau'r argaill 4 corff yr argaill 5 cynffon yr argaill 6 dwythell yr argaill 7 fas defferens Mae'r argaill (neu'r 'epididymis') yn rhan o'r system atgenhedlu wrywaidd. Mae'n diwb sy'n cysylltu'r ceilliau i'r fas defferens. Mae'n bresennol ym mhob ymlusgiad, aderyn a mamal gwrywaidd. Mae'n diwb sengl, cul, wedi ei dorchi'n dyn sy'n cysylltu'r dwythellau echddygol o gefn y caill i'w fas defferens. Mewn oedolion dynol mae rhwng chwech a saith metr o hyd. RhannauMae gan yr argaill tair rhan: Y pen (Caput) Y corff (Corpus) Y gynffon (Cauda) SwyddogaethMae sberm, sy'n cael ei gynhyrchu yn y ceilliau, yn mynd i mewn i ben (caput) yr argaill, drwy'r corff (corpus) i'r gynffon (cauda), lle maent yn cael eu storio. Pan fydd sberm yn cael ei gynhyrchu gyntaf ac yn teithio i'r pen, nid ydynt eto yn barod i gael eu halldaflu. Ni allant nofio na ffrwythloni wy. Erbyn iddynt gyrraedd y gynffon bydd y sberm wedi datblygu digon i'w galluogi i ffrwythloni wy. Mae'r sberm yn cael ei drosglwyddo i'r blychau semenol trwy'r fas defferens. Ni all y sberm nofio eto, felly mae cyfangiadau cyhyrau yn gwthio'r sberm i'r fesigl semenol lle mae'r datblygiad terfynol yn digwydd[1]. Pan fydd sberm yn cael eu halldaflu, maent yn symud trwy gynffon yr epididymis. Mae cymaint o sberm yn ceisio symud trwy le cyfyng fel na allant nofio, felly maent yn cael eu symud trwy beristalsis (gwasgu ac ymlacio anwirfoddol tiwbiau, sy'n gwthio eu cynnwys ymlaen) o'r cyhyrau yn y fas defferens. Arwyddocâd clinigolLlidGelwir llid ar yr argaill yn epididymitis. Mae'n llawer mwy cyffredin na llid y ceilliau, a elwir yn orchitis. Gwaredu llawfeddygolEpididymotomy yw gosod toriad i mewn i'r argaill sy'n cael ei ddefnyddio weithiau fel triniaeth ar gyfer epididymitis crawnllyd acíwt. Epididymectomy yw cael gwared â'r argaill yn llwyr trwy ymyrraeth lawfeddygol, sy'n cael ei ddefnyddio weithiau fel triniaeth ar gyfer syndrom poen ar ôl fasectomi[2] ac ar gyfer achosion o epididymitis sydd ddim yn ymateb i driniaeth amgen. Cyfeiriadau
|
Portal di Ensiklopedia Dunia