Ardal Wyre Forest
Ardal an-fetropolitan yn Swydd Gaerwrangon, Gorllewin Canolbarth Lloegr, yw Ardal Wyre Forest. Mae gan yr ardal arwynebedd o 195.4 km², gyda 101,062 o boblogaeth yn ôl amcangyfrif cyfrifiad 2018.[1] Mae'r ardal yn cynnwys rhan ogleddol ganolog Swydd Gaerwrangon. Mae'n ffinio â thair ardal arall Swydd Gaerwrangon, sef Ardal Malvern Hills, Ardal Wychavon ac Ardal Bromsgrove, yn ogystal â siroedd Swydd Amwythig a Swydd Stafford. Ffurfiwyd yr ardal dan Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, ar 1 Ebrill 1974. Cyfunodd nifer o hen awdurdodau lleol, sef bwrdeistrefi Bewdley a Kidderminster ynghyd ag Ardal Wledig Stourport-on-Severn ac Ardal Wledig Kidderminster. Ers 2011 mae pencadlys yr awdurdod yn nhref Kidderminster. Cyn hynny fe'i lleolwyd yn nhref Stourport-on-Severn. Bewdley yw'r drydedd dref bwysig yr ardal. Cyfeiriadau
Gweler hefyd |
Portal di Ensiklopedia Dunia