Ardal Ashfield
Ardal an-fetropolitan yn sir seremonïol Swydd Nottingham, Dwyrain Canolbarth Lloegr, yw Ardal Ashfield (Saesneg: Ashfield District). Mae gan yr ardal arwynebedd o 110 km², gyda 127,918 o boblogaeth yn ôl amcangyfrif cyfrifiad 2019.[1] Mae'n ffinio â phum ardal arall Swydd Nottingham, sef Ardal Mansfield i'r gogledd-ddwyrain, Ardal Newark a Sherwood a Bwrdeistref Gedling i'r dwyrain, Dinas Nottingham i'r de, a Bwrdeistref Broxtowe i'r de-orllewin, yn ogystal â Swydd Derby i'r gorllewin. ![]() Ffurfiwyd yr ardal dan Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, ar 1 Ebrill 1974. Rhennir yr ardal yn dri phlwyf sifil, gydag ardal ddi-blwyf sy'n cynnwys tref Kirkby-in-Ashfield, lle mae ei phencadlys. Mae aneddiadau eraill yn yr awdurdod yn cynnwys trefi Hucknall a Sutton-in-Ashfield. Gweler hefydCyfeiriadau
|
Portal di Ensiklopedia Dunia