Archwilydd Cyffredinol Cymru
Archwilydd Cyffredinol Cymru yw'r swyddog cyhoeddus sy'n gyfrifol am Swyddfa Archwilio Cymru, y corff sy'n gyfrifol am archwilio Llywodraeth Cymru, ei gyrff cyhoeddus, cyrff y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a llywodraeth leol yng Nghymru. Mae Archwilydd Cyffredinol Cymru yn gyfrifol am archwilio dros £20 biliwn o arian y trethdalwyr bob blwyddyn. Mae'n benodiad statudol wedi ei wneud gan Ei Mawrhydi'r Frenhines, yn unol â threfniadau Atodlen 8 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006. Yr Archwilydd Cyffredinol cyntaf i Gymru oedd Jeremy Colman, a fe'i hapwyntiwyd ar 1 Ebrill 2005 am dymor o 5 mlynedd a ymestynnwyd yn 2009 am dair blynedd yn ychwanegol. Ymddiswyddodd Colman ar 3 Chwefror 2010 ar ôl ymchwiliad mewnol yn Swyddfa Archwilio Cymru[1] ac yn ddiweddarach plediodd yn euog i fod a delweddau anweddus o blant yn ei feddiant.[2] Apwyntiwyd Gillian Body yn Archwilydd Cyffredinol dros dro ar 10 Chwefror 2010[3] cyn apwyntiad Huw Vaughan Thomas ar 1 Hydref 2010.[4] Cyfeiriadau
Dolenni allanol |
Portal di Ensiklopedia Dunia