Anne Hyde
Aelod y teulu frenhinol o Loegr oedd Anne Hyde (12 Mawrth 1637 – 31 Mawrth 1671). Roedd hi'n Duges Efrog ac Albany fel gwraig gyntaf James, Dug Efrog (y Iago II/VII yn ddiweddarach). Mam i ddwy frenhines oedd hi. Roedd Anne yn ferch i'r gwleidydd Edward Hyde (a grëwyd yn Iarll Clarendon yn ddiweddarach). Priododd hi â Iago ym 1660 ar ôl cwrdd yn yr Iseldiroedd. Roedd Anne yn feichiog ar adeg eu priodas. Roedd brawd Iago, Siarl II, brenin Lloegr, eisiau i'r briodas ddigwydd. Roedd gan Iago ac Anne wyth o blant, ond bu farw chwech yn ystod plentyndod cynnar. [1] Y ddau a oroesodd i fod yn oedolion oedd brenhinoedd y dyfodol, Mari II ac Anne. Roedd llawer o feistresi gyda Iago hefyd. BywydCafodd Anne ei geni yn Windsor, yn ferch i Edward Hyde a'i ail wraig, Frances. Enwyd eu merch ar ôl Anne Ayliffe, gwraig gyntaf Hyde. Cafodd ei magu yn yr Eglwys Loegr ond rhoddodd y gorau i fynychu yn 1669.[2] Dwedodd y brenin Siarl fod yn rhaid i'r plant gael eu magu fel Protestaniaid.[3] Roedd ganddi Anne wyth o blant gan ei gŵr, Iago. Bu farw o ganser, yn 34 oed, ym Mawrth 1671. Bu farw ei fab, Edgar, ym mis Mehefin yr un flwyddyn. Bu farw ei ferch ieuanc, Henrietta, ym mis Rhagfyr.[1] Cyfeiriadau
|
Portal di Ensiklopedia Dunia