Anne Enright
Mae Anne Teresa Enright FRSL (ganwyd 11 Hydref 1962) yn awdur o Iwerddon. Cyhoeddodd nifer o nofelau, straeon byrion, traethodau, ac un llyfr ffeithiol. Mae'n gymrawd 'Cymdeithas Frenhinol Llenyddiaeth'. Enillodd ei nofel The Gathering wobr Man Booker, 2007. Mae hefyd wedi ennill Gwobr Rooney am Lenyddiaeth Wyddelig 1991, Gwobr Encore 2001 a Nofel y Flwyddyn 2008 yn Iwerddon. Fe'i ganed yn Nulyn ar 11 Hydref 1962. Dechreuodd ysgrifennu o ddifrif pan roddodd ei theulu deipiadur trydan iddi ar gyfer ei phen-blwydd yn 21 oed. Wedi gadael yr ysgol mynychodd Goleg y Drindod, Dulyn a Phrifysgol Dwyrain Anglia.[1][2][3][4] Bu'n gynhyrchydd ac yn gyfarwyddwr teledu i RTÉ yn Nulyn am chwe blynedd a chynhyrchodd y rhaglen Nighthawks am bedair blynedd. Yna gweithiodd ar raglenni plant am ddwy flynedd ac ysgrifennodd ar benwythnosau. Dechreuodd Enright ysgrifennu'n llawn amser yn 1993.[5] Cychwynodd ei gyrfa llawn amser fel awdur pan adawodd byd y teledu oherwydd iddi dorri lawr. Mae Enright yn byw yn Bray, Swydd Wicklow gyda'i phriod Martin Murphy, sy'n gyfarwyddwr Theatr y Pafiliwn yn Dún Laoghaire. Mae ganddynt ddau o blant, mab a merch.[6] GwaithMae gwaith cynnar Enright wedi cael ei gymharu'n aml â gwaith Flann O'Brien, gan feirniaid llenyddol. Cyhoeddwyd y Portable Virgin, casgliad o'i straeon byrion, ym 1991. Mynnodd Angela Carter ei fod yn “gain, yn wenwynog iawn, bob amser yn ddeallus ac, yn anad dim, yn gwbwl wreiddiol. Cyhoeddwyd nofel gyntaf Enright, The Wig My Father Wore, ym 1995. Mae'r llyfr yn archwilio themâu fel cariad, mamolaeth, Pabyddiaeth, a rhyw. Roedd nofel nesaf Enright, What Are You Like? (2000), yn ymwneud â gefeilliaid o'r enw Marie a Maria sy'n cael eu gwahanu adeg eu geni a'u magu ar wahân i'w gilydd yn Nulyn a Llundain. Mae'n edrych ar densiynau ac eironi rhwng aelodau'r teulu. Cafodd ei roi ar y rhestr fer yng nghategori newydd Gwobrau Whitbread.[7] Mae ei llyfr Making Babies: Stumbling into Motherhood (2004) yn gasgliad o draethodau gonest a doniol am enedigaeth a mam. Cyhoeddwyd pedwerydd nofel Enright, The Gathering, yn 2007. Yn 2015, penodwyd Enright fel 'Prifardd (neu 'lawryf') Llenyddiaeth Gaeleg' cyntaf gan y Taoiseach Enda Kenny. Yn ystod ei chyfnod fel Llawryf Ffuglen Wyddelig, ceisiodd Enright gysylltu pobl gyffredin Iwerddon â llenyddiaeth Iwerddon trwy ddarlithoedd cyhoeddus a dosbarthiadau ysgrifennu creadigol. Treuliodd un semester yng Ngholeg y Brifysgol Dulyn ac un semester ym Mhrifysgol Efrog Newydd. AelodaethBu'n aelod o Gymdeithas Frenhinol Llenyddiaeth am rai blynyddoedd. [8] Anrhydeddau
Cyfeiriadau
|
Portal di Ensiklopedia Dunia