Alistair Darling
Gwleidydd o'r Alban oedd Alistair Maclean Darling (28 Tachwedd 1953 – 30 Tachwedd 2023). Roedd yn Aelod Seneddol Llafur dros etholaeth De-Orllewin Caeredin yn Senedd y Deyrnas Unedig a gwasanaethodd fel Ganghellor y Trysorlys o 2007 hyd 2010. Bu farw o ganser, yn 70 oed.[1] Bywyd personolCafodd Darling ei eni yn Llundain i Thomas ac Anna Darling. Roedd Aelod Seneddol y Ceidwadwyr dros etholaeth De Caeredin (1945-1957), Syr William Darling, yn berthynas iddo. Yn Kirkcaldy y derbyniodd ei addysg, yn ysgol fonedd Loretto, Musselburgh. Aeth ymlaen i Brifysgol Aberdeen lle roedd ef yn arwain Undeb y Myfyrwyr. Enillodd gradd yn y Gyfraith, gan ddechrau gyrfa fel cyfreithiwr yn 1978 a newid i fod yn fargyfreithiwr yn 1984. Ymunodd a'r Blaid Lafur yn 1977. Enillodd sedd fel cynghorydd ar Gyngor Ardal Lothian yn 1982 hyd at ennill sedd yn San Steffan yn 1987. Priododd Darling y cyn-newyddiadurwr Margaret McQueen Vaughan yn 1986. Mae ganddynt fachgen o'r enw Calum (ganwyd 1988) a merch o'r enw Anna (ganwyd 1990). Dëellir fod Darling yn hoff o wrando ar gerddoriaeth Pink Floyd, Coldplay, Leonard Cohen a The Killers. Aelod Senedd y DUCafodd ei ethol fel cynrychiolwr etholaeth Canol Caeredin yn etholiad cyffredinol 1987, gan guro'r cyn-aelod Ceidwadol, Syr Alexander Fletcher. Ers 2005 mae Darling wedi cynrychioli etholaeth De-Orllewin Caeredin. Yn 1988 bu Darling yn aelod o arweinyddiaeth gwrthblaid Neil Kinnock fel un o lefarwr materion cartref. Wedi etholiad 1992, symudodd yn llefarydd materion y Trysorlys, ac yna'n brif ysgrifennyd yr wrthblaid i'r Trysorlys fel rhan o arweinyddiaeth gwrthblaid Tony Blair. Gweinidog llywodraethWedi etholiad llwyddiannus Plaid Llafur yn 1997, bu Darling yn Brif Ysgrifennydd i'r Trysorlys, yn gweithio gyda Gordon Brown. Roedd Darling yn un o dri a barhaodd fel gweinidogion ers 1997. Wedi i Harriet Harman adael fel Ysgrifennydd Gwladol dros Nawdd Cymdeithasol yn 1998, cymerodd Darling y swydd. Yn cyd-fynd gyda newid Adran Nawdd Cymdeithasol i fod yn Adran Gwaith a Phensiynau yn 2001, cafodd Darling enw newydd i'w swydd fel Ysgrifennydd Gwladol dros Waith a Phensiynau. Wedi ymddiswyddiad Stephen Byers yn 2002 fel Ysgrifennydd Trafnidiaeth, symudodd Darling i gymryd yr adran drosodd. Adran Trafnidiaeth, Swyddfa'r Alban ac Adran Diwydiant a MasnachYn ei amser fel Ysgrifennydd Cludiant, gofynnwyd i Darling i "dynnu'r adran o penawdau'r newyddion". Bu'n gyfrifol am ffurfio Network Rail, a gymerodd drosodd gwaith Railtrack. Yn 2003 cymerodd Darling swydd Ysgrifennydd Gwladol yr Alban yn ogystal a'i swydd yn yr adran trafnidiaeth. Ym Mai 2006, symudodd Darling o'r adran trafnidiaeth a Swyddfa'r Alban i ddod yn Ysgrifennydd Gwladol Dros Ddiwydiant a Masnach. Cymerodd Douglas Alexander drosodd fel Ysgrifennydd Trafnidiaeth a'r Alban. Canghellor y TrysorlysAr ôl i Gordon Brown ddod yn Brif Weinidog y DU, penodwyd Darling fel Canghellor y Trysorlys ym Mehefin 2007. Bu'n gyfrifol am redeg y Trysorlys yn ystod un o'r cyfnodau gwaethaf yn hanes economi'r byd, yn dilyn argyfwng morgeisi 2007. Bu'n rhaid i Darling wladoli banc Northern Rock a buddsoddi biliynau i mewn i'r Royal Bank of Scotland a Lloyds Banking Group. Hefyd roedd rhaid iddo delio gyda cholli gwybodaeth preifat 25 miliwn o bobl a diwedd band treth 10c, penderfyniad a wnaed gan y cyn-canghellor Gordon Brown.[2] Cyfeiriadau
Dolenni allanol
|
Portal di Ensiklopedia Dunia