Gwobr yr Academi i'r Actor-gynorthwyydd Gorau, Gwobr Tony am yr Actor Gorau mewn Drama, Gwobr Golden Globe am Actor Gorau - Ffilm Sioe-gerdd neu Gomedi, Drama Desk Award for Outstanding Director, Drama Desk Award for Outstanding Director, Genie Award for Best Performance by a Foreign Actor, Genie Award for Best Supporting Actor, Gwobr BAFTA am Actor Gorau mewn Rhan Gynhaliol, Gwobr yr Ysbryd Rhydd am yr Actor Gwrywaidd Cefnogol Gorau, Gwobr Urdd Actorion Sgrin ar gyfer Perfformiad Eithriadol gan Cast mewn Ffilm Nodwedd, Gwobr Urdd Actorion Sgrin ar gyfer Perfformiad Eithriadol gan Cast mewn Ffilm Nodwedd, Gwobr y 'Theatre World', Gwobr y Glob Aur am yr Actor Cefnogol Gorau - ar ffim, seren ar Rodfa Enwogion Hollywood
Cafodd Arkin ei eni yn Brooklyn, Efrog Newydd, yn fab i David I. Arkin, peintiwr ac awdur, a'i wraig, yr athrawes Beatrice (g. Wortis).[2][3] Cafodd ei fagu mewn teulu Iddewig.[4] Symudodd y teulu i Los Angeles pan oedd Alan yn 11 oed. [5] Yn ystod y 1950au, cyhuddwyd rhieni Arkin o fod yn Gomiwnyddion, a chafodd ei dad ei ddiswyddo. [6]
Ym 1968, bu’n serennu fel yr Arolygydd Jacques Clouseau yn nhrydydd rhandaliad masnachfraint The Pink Panther, o’r enw Inspector Clouseau. Yr un flwyddyn, derbyniodd enwebiadau ar gyfer Gwobr yr Academi am yr Actor Gorau, a Gwobr Golden Globe am yr Actor Gorau - Drama Motion Picture am ei rôl yn The Heart Is a Lonely Hunter.[7][8]
Bu Arkin yn briod deirgwaith. Roedd ganddo ef a Jeremy Yaffe (p. 1955-1961) ddau fab: yr actorion Adam Arkin (g. 1956) a Matthew Arkin (g. 1960). Priododd Barbara Dana ym 1964; ymddangosodd Dana gydag ef mewn rhannau o Sesame Street yn y 1970au. Ym 1967, bu iddynt fab, Anthony (Tony) Dana Arkin.[9] Ym 1996, ar ol ei ysgariad priododd Arkin y seicotherapydd Suzanne Newlander. [10]