Agadir
Dinas ym Moroco yw Agadir (Arabeg: أغادير Aġadīr neu Agadīr, Berbereg (Amazigh): ⴰⴳⴰⴷⵉⵔ). Fe'i lleolir yn ne-orllewin Moroco ar lan Cefnfor Iwerydd ac mae'n brifddinas talaith Agadir (MA-AGD) a rhanbarth Souss-Massa-Draâ. Poblogaeth: tua 200,000. Dyma'r ddinas Forocaidd fwyaf cyfarwydd i dwristiaid o'r Gorllewin oherwydd y gwestai gwyliau paced niferus yno ac yn y cyffiniau. Sefydlwyd canolfan masnach arfordiol yma gan y Portiwgalwyr ar ddechrau'r 16g. Ar 29 Chwefror, 1960, dinistrwyd Agadir gyfan bron mewn daeargryn a barodd am 15 eiliad: amcangyfrir fod tua 15,000 wedi'u lladd. Dinistrwyd yr hen Kasbah. Datblygwyd y ddinas o'r newydd bron a'i throi yn ganolfan gwyliau 'haul y gaeaf'. Erbyn heddiw twristiaeth yw'r prif ddiwydiant ac mae miloedd lawer o dwristiaid yn hedfan yno o wledydd Ewrop. O ganlyniad, dydy Agadir ddim yn ddinas Forocaidd nodweddiadol. Cymunedau
Amgueddfeydd
Dolenni allanol
|
Portal di Ensiklopedia Dunia