Afonfarch
Mamal yn perthyn i'r teulu Hippopotamidae yw'r afonfarch (hefyd hipopotamws neu dyfrfarch)[1] (Hippopotamus amphibius, o'r Roeg: 'ιπποπόταμος, hippopotamos). Yr unig aelod arall o'r teulu yw'r Afonfarch Bach. Ceir yr Afonfarch yn Affrica i'r de o'r Sahara yn unig, ac mae wedi diflannu o lawer o diriogaethau yno. Mae'n byw o gwmpas afonydd a llynnoedd mewn grwpiau o hyd at 40 anifail, gan aros yn y dŵr yn ystod y dydd a dod allan i fwydo ar blanhigion yn y nos. Ceir rhwng 125,000 a 150,000 ohonynt i gyd, y nifer fwyaf yn Sambia (40,000) a Thansanïa (20,000-30,000). Filoedd o flynyddoedd yn ôl, cyn i'r hinsawdd newid, roedd afonfeirch i'w cael yng nghanol yr hyn sydd erbyn heddiw yn anialwch y Sahara: ceir darluniau cynhanesyddol ohonynt ar furiau ogofâu yn y Tassili n'Ajjer. Gweler hefydCyfeiriadau
|
Portal di Ensiklopedia Dunia