Afon Treweunydd
Afon fynyddig yn Eryri, Gwynedd, yw Afon Treweunydd. Mae'n tarddu yng Nghwm Clogwyn ychydig i'r gorllewin o'r Wyddfa ac yn llifo i Afon Gwyrfai. Hyd: tua 3 milltir.[1] Mae sawl ffrwd yn llifo i'r afon yng Nghwm Clogwyn. Tardda'r ffrydiau uchaf ym mhen uchaf y cwm dan gysgod copa'r Wyddfa. Llifa ffrydiau i mewn i Lyn Coch ac yna ymlaen i lawr y cwm i gyfeiriad y gogledd ac wedyn i'r gorllewin. Mae ffrwd arall yn llifo i Lyn Nadroedd ac yna dros y creigiau i'r gogledd i ymuno â phrif ffrwd yr afon yn is i lawr. Mae'r ffrwd sy'n llifo o Lyn Ffynnon y Gwas yn llifo i mewn i lyn llai islaw iddo, oedd hefyd yn gronfa ddŵr, ac yna'n llifo i Afon Treweunydd.[1] Mae Afon Treweunydd yn ymuno ag Afon Gwyrfai ychydig cyn iddi lifo i mewn i Lyn Cwellyn.[1] Cyfeiriadau |
Portal di Ensiklopedia Dunia