Afon Po
Mae Afon Po (Lladin: Padus) yn afon sy'n tarddu ger Monviso yn yr Alpau Cottaidd ac yn llifo am 652 km (405 milltir) i'r dwyrain ar hyd gogledd yr Eidal. Mae'n cyrraedd y Môr Adriatig gerllaw Fenis. Afon Po yw'r afon hwyaf yn yr Eidal, ac mae ei dalgylch yn 71,000 km². Mae'r afon yn llifo trwy nifer o ddinasoedd a threfi pwysig, yn cynnwys Torino, ac mae wedi ei chysylltu a Milan trwy rwydwaith o sianeli a elwir yn navigli. Bu gan Leonardo da Vinci ran yn y gwaith o gynllunio'r rhain. Cyn i'r afon gyrraedd y môr, mae'n ffurfio delta sylweddol, gyda llawr o sianeli bach a pump mawr: Po di Maestra, Po della Pila, Po delle Tolle, Po di Gnocca a Po di Goro. Yn y cyfnod Rhufeinig gelwid dyffryn Afon Po yn Gallia Cisalpina, oedd yn cael ei rannu yn Gallia Cispadana i'r de o'r afon a Gallia Transpadana i'r gogledd. Heddiw gelwir dyffryn Afon Po yn Pianura Padana. Mae'r afon dan reolaeth awdurdod arbennig, y Magistrato delle Acque. Cyfeiriadau |
Portal di Ensiklopedia Dunia