Addysgu hanes CymruMae'r bwyslais ar Hanes Cymru mewn assyg ysgolion wedi gwella'n raddol. Mae addysg hanes Cymru yn rhan o’r Cwricwlwm i Gymru (2022-presennol) a reolir gan Lywodraeth Cymru. Cyflwynwyd addysgu hanes Cymru a hanes lleiafrifoedd ethnig fel rhan o’r cwricwlwm newydd o fis Medi 2022. Hanes Cymru yn y cwricwlwmYmgyrchoeddErs blynyddoedd, bu unigolion a mudiadau yn ymgyrchu i gael addysg gorfodol am hanes Cymru fel rhan o'r cwricwlwm.[1] Yn 2020, dywedodd Sian Gwenllian AS Plaid Cymru y dylai hanes Cymru a hanes lleiafrifon ethnig fod yn rhan gorfodol o'r cwricwlwm. Arweiniodd Blaid Cymru ar ddadl yn y Senedd gan alw ar Lywodraeth Cymru i gynnwys hanes Cymru a hanes lleiafrifon ethnig fel rhan gorfodol o'r cwricwlwm.[2] Ers y cwrricwlwm cenedlaethol 1988, nodwyd "bod hanes Cymru yn bwysig, y dylai fod hanes Cymru yn cael ei ddysgu ond am nifer o resymau, yn aml iawn doedd hynny ddim yn digwydd.", dywed cydlynydd Ymgyrch Hanes Cymru, Eryl Owain. Mae'r mudiadau canlynol wedi rhoi sylw i addysgu hanes Cymru; Ymgyrch Hanes Cymru, Cymdeithas yr Iaith, Dyfodol i’r Iaith a Chymdeithas Glyndŵr. “Sefydlwyd yr ymgyrch (Ymgyrch Hanes Cymru) yn 2013 i gasglu tystiolaeth yn un peth am y diffyg sylw i Hanes Cymru" ac er mwyn rhoi pwysau ar Lywodraeth Cymru.[3] GwelliannauYchwanegodd Eryl Owain, “Mae Llywodraeth Cymru, dan y Gweinidog Addysg blaenorol, wedi sefydlu Gweithgor Cymunedau, Cyfraniadau a Chynefin Pobol Dduon a Lleiafrifoedd Ethnig dan gadeiryddiaeth yr Athro Charlotte Williams, i fonitro os ac i ba raddau mae ysgolion yn rhoi sylw i brofiadau pobol o’r cefndiroedd hynny." “Mae angen gweithgor o’r fath ar gyfer monitro’r modd y mae Hanes Cymru yn cael ei gyflwyno mewn ysgolion hefyd, yn fy marn i.[3] Ym mis Rhagfyr 2022 dywedodd yr hanesydd Elin Jones, “Felly mae ishe mwy na deddfu, mae ishe mwy na dweud beth sydd eisiau ei wneud, mae’n rhaid dangos i athrawon siwt mae’i wneud e, siwt mae integreiddio hanes lleiafrifoedd ethnig i hanes Cymru, siwt mae pasio hanes Cymru i’r persbectif ehangach." Dywedodd Iwan Jones, Pennaeth y Dyniaethau yn Ysgol Bryniago ym Mhontarddulais, “Mewn ysgolion cynradd yn enwedig, ddim pawb sy’n arbenigo yn hanes Cymru, felly yn sicr mae ishe hyfforddiant ac adnoddau ar athrawon.” Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae Hanes Cymru wedi bod yn orfodol ers cyflwyno'r cwricwlwm newydd ym mis Medi ac rydym yn ymgynghori ar hyn o bryd ar newidiadau arfaethedig i Cod y Datganiad o’r hyn sy’n bwysig er mwyn cyfeirio'n benodol at hanes Cymru a'r byd. “Byddwn ni'n comisiynu llinell amser o hanes Cymru i gefnogi ysgolion gyda'r newid hwn. "Rydym wrthi'n comisiynu deunyddiau ategol er mwyn galluogi athrawon i gynllunio eu cwricwlwm i adlewyrchu hanes a chymunedau amrywiol Cymru. Byddwn yn parhau i weithio gyda rhanddeiliaid, gan gynnwys haneswyr ac academyddion, dros y misoedd nesaf i edrych ar ffyrdd pellach o gefnogi athrawon."[1] CwricwlwmHen gwricwlwm 2008Mae Cwricwlwm 2008 yn cael ei ddefnyddio yng Nghymru nes iddo gael ei ddisodli’n llawn gan y Cwricwlwm i Gymru a roddwyd ar waith o 2022 ymlaen.[4] Addysgir disgyblion 7-14 oed yn unol â’r Cwricwlwm Cymreig gan gynnwys addysgu nodweddion diwylliannol, economaidd, amgylcheddol, hanesyddol ac ieithyddol Cymru. Addysgir disgyblion 14-19 oed drwy Gymru, Ewrop a’r Byd sy’n cynnwys agweddau gwleidyddol, cymdeithasol, economaidd a diwylliannol Cymru ac fel rhan o’r byd.[5] Cwricwlwm newydd 2022Yn 2012, sefydlodd llywodraeth Cymru grŵp gorchwyl dan arweiniad yr hanesydd Elin Jones i adolygu hanes, hanes Cymru a’r Cwricwlwm Cymreig a’r gweinidog Leighton Andrews yn dweud bod cynnydd sylweddol wedi bod mewn diddordeb yn hanes Cymru dros y ddegawd flaenorol. Roedd hyn yn dilyn canllawiau ACCAC ar ‘Ddatblygu’r Cwricwlwm Cymreig’ yn 2003. Yn 2013 cyhoeddwyd “Adroddiad y Cwricwlwm Cymreig, hanes a stori Cymru”.[6][7] Yn 2015, adeiladodd yr Athro Graham Donaldson ar yr adroddiad hwn wrth ddatblygu Cwricwlwm Cymreig a ddylai gynnwys chwe Maes Dysgu a Phrofiad (MDPh) ac y dylai pob Maes Dysgu a Phrofiad gael dimensiwn Cymreig a phersbectif rhyngwladol.[8] Roedd pob ysgol i fod i gael mynediad i’r Cwricwlwm newydd i Gymru o 2020 gyda’r nod o’i roi ar waith ym mis Medi 2022.[9] PrifysgolDyma restr o brifysgolion sy'n cynnig cyrsiau ar hanes Cymru:
Cyfeiriadau
|
Portal di Ensiklopedia Dunia