Adam Smith
Athronydd o Albanwr oedd Adam Smith (16 Mehefin 1723 – 17 Gorffennaf 1790). Mae'n fwyaf adnabyddus fel awdur dau lyfr, The Theory of Moral Sentiments (1759), a An Inquiry into the Nature and Causes of the Wealth of Nations (1776). Roedd yn un o sylfaenwyr astudiaeth economeg fel pwnc academaidd. Ganed ef yn Kirkcaldy, Fife, Yr Alban; nid oes sicrwydd am ddyddiad ei eni, ond bedyddiwyd ef ar 5 Mehefin 1723. Aeth i Brifysgol Glasgow yn 14 oed, lle astudiodd athroniaeth foesol. Yn 1740 aeth i Goleg Balliol, Rhydychen. Yn 1748 dechreuodd roi darlithoedd cyhoeddus yng Nghaeredin, a daeth i adnabod David Hume. Yn 1751 daeth yn Athro rhesymeg ym Mhrifysgol Glasgow. Cyhoeddodd The Theory of Moral Sentiments yn 1759. Ymddangosodd The Wealth of Nations yn 1776, a gwnaeth ei awdur yn enwog. Ystyrir ef yn un o brif gefnogwyr y syniad o Laissez-faire a'r farchnad rydd; gyda'r egwyddor fod system ecomomaidd lle mae pawb yn dilyn ei les ei hun yn arwain at fwy o gyfoeth i bawb. Prif weithiau![]() |
Portal di Ensiklopedia Dunia